Lleoliad:
Ystafell
Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel.
Dyddiad: Dydd
Mawrth, 9 Mai 2023
Amser:
09.00 -
10.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13450
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd dirprwyon yn bresennol.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 SL(6)350 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(6)351 - Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)354 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cafwyd datganiad o fuddiant perthnasol gan James Evans AS. Hefyd, nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
3.3 SL(6)348 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
3.4 SL(6)353 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.5 SL(6)352 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(6)341 - Rheoliadau Ychwanegion Bwyd, Cyflasynnau Bwyd, a Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
4.2 SL(6)349 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
5 Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol
5.1 Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.
5.2 Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Iechyd Planhigion a Chyflyrau Ffytoiechydol (Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw a Phlâu Planhigion) (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog.
5.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6 Papurau i'w nodi
Nid oedd unrhyw bapurau i'w nodi.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2)
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2). Cytunodd y Pwyllgor y dylid ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o eglurder, ac wedyn i drafod ei adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.
11 Cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 24 Ebrill 2023 cyn cytuno arno.
12 Blaenraglen waith
Trafododd y Pwyllgor faterion sy’n gysylltiedig â'i flaenraglen waith.
Made Negative Resolution Instruments
Made Negative Resolution Instruments
Affirmative Resolution Instruments